Eglwys y Santes Fair a Sant Nefydd, Llanefydd

 

Perthyn yr eglwys i’r Eglwys yng Nghymru yn Esgobaeth Llanelwy. Mae’n rhan o Archddiaconiaeth Llanelwy a Deoniaeth Dinbych. Mae ffurfio un o dair eglwys gyda Henllan a Bylchau. 

Ficer: Y Parchedig Ganon J. P. P. Williams B.A., Dip. Theol.

 Cynhelir gwasanaethau yn ddwyieithog.

9.30 a.m. Cymun Bendigaid 2il a 4ydd Sul yn y mis

9.30 a.m. Boreol Weddi 5ed Sul yn y mis.

9.30 a.m. Dydd Nadolig: Cymun Bendigaid

2.00 p.m.Dydd Gwener y Groglith: Yr Awr Olaf

9.30 a.m. Dydd Sul y Pasg: Cymun Bendigaid .

9.30 a.m. Sulgwyn: Cymun Bendigaid

3.00 neu 3.30 p.m. Diolchgarwch – 2il Sul ym mis Hydref – Prynhawnol Weddi gyda phregethwr gwadd.

 Cynhelir gwasanaethau eciwmenaidd yn ystod y flwyddyn fel Gwasanaeth Cymorth Cristnogol a’r Gwasanaeth Canu Carolau a gynhelir bob yn ail yn y capel. Mae cyfleoedd i ymuno mewn digwyddiadau a gynhelir gan y ddeoniaeth a’r esgobaeth.

Bedyddiadau a phriodasau trwy drefniant. Cynhelir dosbarthiadau derbyn hefyd yn ystod y flwyddyn.

 Cyfartaledd nifer y gynulleidfa: 15

 Rydyn yn gynulleidfa fechan, glos a chartrefol gan amrywio mewn oedran o 10 i 80+ oed. Rydyn yn freintiedig o gael mwynhau eglwys hardd, syml o ddiwedd y canol oesoedd. Daw aelodau o amrywiaeth o gefndiroedd a phroffesiynau ac mae ganddynt amrywiol ddiddordebau. Mae cyfleoedd i bobl ddarllen llithoedd, ddosbarthu gwin yn ystod y cymun a hel y casgliad. Dilynir y gwasanaethau gan baned o de/goffi a bisgedi, a llawer o siarad !

Ceir gweithgareddau achlysurol, sy’n ymwneud â chodi arian tuag at gynnal yr eglwys yn bennaf. Maent yn y gorffennol wedi cynnwys ffeiriau, garddwestau, noswaith o sleidiau, teithiau cerdded a sgyrsiau. Cafwyd perfformiad cofiadwy o’r Meseia gan G F Handel gan Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, a Chôr Siambr Manceinion yn Rhagfyr 2006. Denodd y perfformiad hwn gynulleidfa o ardal eang iawn  ac roedd yr adeilad yn orlawn. Roedd yr eglwys wedi’i haddurno gyda chelyn a phlanhigion bytholwyrdd mewn arddull Fictorianaidd a’r oll wedi’i berfformio yng ngolau canhwyllau. Gobeithir cynnal cyngherddau safonol o’r fath yn y dyfodol.

 Cymer yr eglwys ran ym Mhenwythnos Treftadaeth Ewropeaidd a Rhwydwaith Twristiaeth Eglwysi ym Medi, a gall yr achlysur gynnwys arddangosfa fechan.

 Croesewir ymweliadau gan gymdeithasau trwy drefniant ar benwythnos neu ar gyda’r nos a gellir darparu tywysydd Cymraeg neu Saesneg ei iaith.

Mae ymwelwyr yn y gorffennol wedi cynnwys Cymdeithas y Berth, Licswm;  Cymdeithas Hanes Llansannan, Undeb y Mamau Rhiwabon, a grŵp o ddysgwyr Cymraeg o Ddyffryn Ceiriog, Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, Cymdeithas Hanes Sir y Fflint a Chymdeithas Hanes Dinbych.

 

Candlelit at Christmas