Crynodeb o
Hanes Llanefydd
Y ffurf
ramadegol a hanesyddol gywir o Lanefydd yw Llanefydd gydag un ‘n’, er
dros y canrifoedd cafwyd sawl ffurf ac amrywiad fel Lanudid, Llanufudd,
Llanyfydd, Llanyfudd neu’ ffurf Saesneg Llanyfith neu Llanheueth.
Digwydd y ffurfiau hyn dros y canrifoedd hyd at ganol y bedwaredd ganrif
ar bymtheg ac wedi hynny. Yn ystod yr 1840au yr ymddangosodd dwy ‘n’
wrth i bobl ddadlau mai Nefydd oedd nawddsant y plwyf. Mae’r ffurf
wreiddiol yn awgrymu ‘ufudd’, parod i dderbyn crefydd efallai, a’r elfen
llan yn golygu lle wedi’i amgáu fel a geir yn gwinllan a pherllan. Ni
ŵyr neb yn bendant pwy oedd Nefydd, un awgrym rhesymol a wnaed gan y
Parchedig Wade Evans yw mai Tefydd, sef tad y Santes Gwenffrewi ydoedd.
Mae
Llanefydd wedi’i leoli ar lechweddau Dyffryn Clwyd, tua phum milltir o
Ddinbych ac wedi’i amgylchynu gan blwyfi Henllan, Llansannan, Llanfair
Talhaearn, Abergele a Chefn Meiriadog. Mae’r plwyf yn amrywio mewn
uchder o 200 i tua 1,125 troedfedd uwch ben y môr. Mae’r pentref yn
edrych tuag at ardaloedd arfordirol Towyn, Y Rhyl a Phrestatyn. O frig
Mynydd y Gaer a Foel Fodiar, y ddau fynydd sy’n y plwyf, ceir golygfeydd
gwych i fyny Dyffryn Clwyd a thuag at erwinder rhamantus ag anial Mynydd
Hiraethog. Heb law’r pentref, ceir mannau neu ardaloedd eraill o fewn y
plwyf a adweinir fel Ffynhonnau, Cefn Berain, Pentref Uchaf, Pentref
Isaf a’r Bont Newydd.
Amaethyddiaeth yw prif ddiwydiant y plwyf, er mai ychydig iawn a
gyflogir yn y diwydiant hwnnw o gymharu â chanrif yn ôl, ac nid yw
heddiw yn cyfrannu fawr ddim i gyflogaeth yr ardal. Mae pobl heddiw yn
teithio y tu allan i’r plwyf i weithio ac yn ymwneud â sawl proffesiwn
fel y gyfraith, cyllid, addysgu, gweinyddu, clerigol, crefft a masnach
etc.
Mae’r tir
yn ffrwythlon a gall fod yn drwm, cleiog ag oer gyda chalchfaen a siâl
i’w gael o fewn terfynau’r plwyf sy’n mesur 7,605 o erwau. Mae
tystiolaeth ddaearegol o fynyddoedd iâ yn siapio’r tirlun wrth iddynt
fynd tuag at y môr o Eryri. Ceir yr afonydd Aled, Elwy, Meirchion ac Asa
yn llifo trwy’r plwyf, rhai ohonynt yn llunio terfynau naturiol y plwyf.
Cafwyd
tystiolaeth o ddyn Neandertal o 250,000 o flynyddoedd yn ôl dros ffin y
plwyf yn ogof Bont Newydd, a chafodd yr Athro Boyd Dawkins dystiolaeth
bellach yn ogof Brysgyll o’r cyfnod Neolithig o bosibl.
Tua milltir
o’r pentref ceir caer Frythonig o’r enw Mynydd y Gaer, neu Ddinas
Cadfael. Ystyr dinas yw amddiffynfa a Cadfael (cad + mael) yw ci brwydr,
pennaeth y bobl oedd yn byw yma dros fil a hanner a mwy o flynyddoedd yn
ôl efallai. Mae’r gaer yn mesur tua deg erw gyda dwy fynedfa a ffos a
chlawdd, ac unwaith roedd ffens bren, sydd wedi hen bydru, ar ei ben y
clawdd. Nid yw hon ond un o’r caerydd a geir yn y cylch. Mae cadwyn
ohonynt i’w cael ar ben Bryniau Clwyd. Nid yw swyddogaeth y caerydd hyn
yn eglur. Byddai’r amaethu wedi digwydd ar dir is a gwell. Yn anffodus,
mae’r gaer wedi’i difrodi dros y canrifoedd gan bobl fu’n casglu cerrig
at adeiladu tai.
Bu’r
Rhufeiniaid hefyd yn y cylch a cheir ffordd o’r enw ‘Sarn Ellen’ yn mynd
o Gaer i Gaernarfon trwy Lanelwy, ac o fewn ychydig filltiroedd i
derfynau’r plwyf.
Roedd yr
hen drefn weinyddol Gymreig yn seiliedig ar y dref, y cwmwd a’r cantref,
sy’n hynach na’r plwyf. Ceir wyth tref yn y plwyf sef Carwed Fynydd,
Dinas Cadfael, Myfoniog, Bodysgaw, Tal y Bryn, Berain, Llechryd a Phen
Porchell. Roedd y plwyf yng nghwmwd Isaled ac yng nghantref Rhufoniog.
Defnyddiwyd yr hen drefi hyn fel modd o rannu’r plwyf hyd ddiwedd y
bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn ddiweddarach. Disgrifia Leland rannau
isaf Isaled yn y 1530au fel lle da i dyfu ŷd a’r rhannau uwch fel yn
fynyddig ac yn addas i eifr. Mewn cyfnod diweddarach yn y canol oesoedd
y datblygodd y syniad o blwyf gydag offeiriad yn gyfrifol am y rhanbarth
hwnnw a chryfhawyd statws y plwyf o dan y Tuduriaid.
Bu sôn yn
yr 1870au diweddar a dechrau’r 1880au am drosglwyddo rhannau o drefi
degwn Berain, Tal y Bryn a Bodysgaw i blwyf eglwysig Cefn Meiriadog tra
roedd rhan o Garwedfynydd a Dinas Cadfael i fynd tuag at lunio plwyf
newydd fyddai a’i ganolfan yn Eglwys Pont y Gwyddel gyda darnau o blwyfi
Abergele a Llanfair Talhaearn yn cael eu hychwanegu ato. Gwrthwynebwyd
hyn gan ficer y plwyf, Ebenezer Jones, gan y byddai, yn naturiol, wedi
effeithio ar ei incwm.
Roedd yr
ardal dan reolaeth Henry de Lacy, Iarll Lincoln fel Arglwydd Dinbych ar
ôl 1282, ac roedd yn rhaid i ddeiliaid cyfoethog ei arglwyddiaeth wylio
neu amddiffyn y castell am ddeugain diwrnod y flwyddyn yn ogystal â
thalu amrywiol drethi. Symudodd de Lacy rai o frodorion Cymreig Llewenni
i drefi Berain, a hefyd Taldrach ym mhlwyf Henllan er mwyn gwneud lle
i’w ddilynwyr. Ceir rhestr o denantiaid y plwyf a’r taliadau roeddent yn
eu gwneud yn Stent 1334 a luniwyd gan Hugh de Beckle, a chyhoeddwyd
testun Lladin y ddogfen gyda nodiadau gan Paul Vinogradof.
Cafwyd
ymosodiadau achlysurol o’r pla du yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a
arweiniodd at ddirywiad y drefn ffiwdal gan ryddhau pobl i fargeinio
ynghylch eu statws, y tir a’r trethi roeddent yn ei dalu. Roedd rhai o’r
taliadau hyn eisoes wedi’u cyfnewid am daliadau ariannol.
Dibynnai’r
boblogaeth ar dywydd da i dyfu a chynaeafu cnydau a gallai cynhaeaf
gwael olygu newyn neu farwolaeth. Roedd plant, y musgrell a’r hen mewn
mwy o berygl o farwolaeth. Cafwyd tywydd gwael yn 1739-40 pan ddaliodd
yr amaethwyr eu grawn yn ôl i’w werthu yn Lerpwl am fwy o arian.
Arweiniodd hyn at grefftwyr a chloddwyr o Sir y Fflint a mannau eraill
yn dod i chwilio am rawn i wneud blawd ar gyfer bara. Mewn un
gwrthdrawiad yn y plwyf fe laddwyd gwas ffarm yr Hafod pan daniodd aelod
o’r terfysgwyr wn, a bu’n rhaid i’r plwyfolion amddiffyn eu hunain gyda
ffyrch, crymanau, pladuriau a chribiniau. Aeth yr ymosodwyr ymlaen i
ymosod ar ranar y Ddôl gan fynnu ŷd ac iawndal am wastraffu amser.
Cafwyd terfysg hefyd ym mhlwyf Henllan. Cafwyd terfysg yn Ninbych yn
1795 pan orfodwyd dynion i ymuno â’r llynges yn ystod y Chwyldro
Ffrengig.
Cafwyd
prinder tai oherwydd y cynnydd mewn poblogaeth ond mae’n ymddangos bod y
broses hon wedi cychwyn ymhell cyn y ddeunawfed ganrif. Mae enwau
lleoedd ac adeiladau yn awgrymu mai yng ngwaelodion y plwyf roedd y
boblogaeth yn byw, ond wrth i’r boblogaeth dyfu, bu’n rhaid iddynt symud
yn ddyfnach i’r plwyf i’r cominoedd i ddiwyllio’r tir. Diflannodd yr
arferiad o symud rhwng yr hafod a’r hendref, ac erbyn yr ail ganrif ar
bymtheg roedd sawl hafod yn llunio cartref annibynnol gyda’i dir ei hun
a hwnnw wedi’i amgau. Cyrhaeddodd cau’r tiroedd comin ei uchafbwynt yn
ystod y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan amddifadu rhai
o’u hawliau pori a chodi tyweirch. Roedd yn gyffredin i rai o’r cloddiau
gael eu dymchwel yn ystod y nos gan brotestwyr oedd yn erbyn yr amgáu.
Codwyd tai cegin a siambr ar y tiroedd hyn gan amgau ychydig erwau. Sut
bynnag, gallai’r amgau arwain at wrthdaro hyd yn oed rhwng
tirfeddianwyr. Protestiodd Humphrey Griffith, Garn, yn erbyn stiward
Arglwydd Dinorben oedd yn amgau yng Nghefn Berain yn nechrau’r bedwaredd
ganrif ar bymtheg ac fe fygythiodd Humphrey Griffith y byddai ef a’i gyd
dirfeddianwyr yn chwalu’r cloddiau roedd Dinorben yn eu codi.
Fel mewn
plwyfi cyfagos, roedd bywyd yn galed iawn yn Llanefydd yn dilyn
Rhyfeloedd Napoleon. Cafwyd dirwasgiad economaidd, tywydd a chynaeafau
gwael. Roedd y Deddfau Ŷd, pla ar datws yn yr 1840au a Rhyfel y Crimea
hefyd yn ffactorau oedd yn dylanwadu ar yr ardal. Tua’r cyfnod hwn y
dechreuodd patrymau amaethyddol newid gyda mwy o bwyslais ar ffermio
bugeiliol yn hytrach na thyfu ŷd. Canlyniad hyn oedd mwy o dir pori a
oedd yn golygu llai o waith yn edrych ar ôl ceffylau, aredig, torri a
dyrnu ŷd. Yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwelwyd
sawl melin yn rhoi ei holaf dro neu mewn defnydd achlysurol. Roedd tyfu
tatws wedi tyfu mewn pwysigrwydd o’r ddeunawfed ganrif ymlaen. Byddai
llafurwr heb ddigon o dir yn dod i delerau â ffermwr ynghylch cael darn
o gae i dyfu tatws arno, ‘cymryd rhan’ fel y’i gelwid gyda’r amaethwr yn
cadw cyfran o’r tatws fel tâl.
Amaethu
oedd prif gyflogwr y plwyf, yn arbennig y llafurwyr a’r cwestiwn a
ofynnid wrth holi ynghylch cyflogwr oedd ‘ydio’n drugarog tuag at y
tlawd’. Bu cynnydd yn nifer y peiriannau a ddefnyddid e.e. peiriant
torri gwair gyda cheffyl, peiriant dyrnu etc. gan olygu llai o waith i’r
llafurwr. Daeth yr arfer o ‘gymryd ysgubor’ i ddyrnu gyda ffust dros y
gaeaf a’r dyrnwr yn cadw cyfran o’r ŷd fel tâl i ben wrth i’r peiriant
dyrnu a nithio gynyddu mewn poblogrwydd, er i’r arfer barhau mewn
ffermydd bach. Mae maint ysgubor yn adlewyrchu faint o ŷd a dyfid ar
fferm.
Dioddefodd
amaethyddiaeth rhwng y Ddau Ryfel Byd, ond wedi dyfodiad y rhyfel yn
1939 ac anogaeth y llywodraeth bu cyfnod o ffynnu, gyda mwy o beiriannau
ar gael a gwelliannau gwyddonol oedd yn golygu gwell cynnyrch ond y galw
am lafur yn gostwng. ‘Doedd gan lafurwyr bellach ddim eisiau gweithio
oriau hir pan oedd cyflogau, swyddi a gwell tai ac adnoddau i’w cael yn
y dref. Cynyddodd amaethwyr eu daliadaeth tir trwy brynu fferm arall gan
werthu’r tŷ fferm neu ei drosglwyddo i fab.
Roedd y
broses o ddod yn rhydd ddeiliaid wedi dechrau ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf
pan ddechreuodd tirfeddianwyr werthu eu stadau oherwydd y newid mewn
amgylchiadau economaidd.
Dros y
blynyddoedd diwethaf rhoddodd ffermydd ‘bach’ y gorau i odro tra
cynyddodd eraill nifer eu gwartheg. Rhoddwyd y gorau i fagu moch yn y
1970au a phrin yw’r sawl sy’n tyfu ŷd o gymharu â’r blynyddoedd a fu.
Nid yw ffermydd bach bellach yn ymarferol yn economaidd a gwelwyd
cynnydd yn y nifer sy’n cadw ceffylau pleser ar dyddynnod.
Mae
ffermwyr heddiw yn defnyddio ffeiriau Rhuthun a Llanelwy i werthu eu
stoc pan yn y gorffennol y cynhelid pedair ffair yn y pentref rhwng
Mawrth a Thachwedd, pan fyddai’r ffyrdd mewn cyflwr teg. Bryd hynny
deuai pobl i werthu eu nwyddau i’r plwyfolion. Defnyddid y ffeiriau yn
Ninbych a Chaerwys, neu byddai’r porthmyn yn gyrru’r anifeiliaid i Loegr
neu yn eu gwerthu yn ffeiriau’r Bala neu hyd yn oed Ddolgellau. Roedd y
stoc a fagwyd a’r cnydau a dyfid yng Nghymru o ansawdd isel oherwydd nad
oedd gan yr amaethwyr yr adnoddau ariannol i fuddsoddi. Roeddent hefyd
yn amheus o’u tirfeddianwyr gan ofni colli tenantiaeth ar ôl gwneud
gwelliannau. Dechreuodd gwelliannau amaethyddol ymddangos yn Nyffryn
Clwyd o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen.
Ychydig
iawn o anifeiliaid a gedwid ar ffermydd yn y ddeunawfed ganrif o gymharu
â’r hyn gedwir heddiw. Hunan gynhaliaeth oedd y nod gyda chynnyrch sbâr
yn cael ei werthu i brynu nwyddau a thalu rhent. Tua phedair buwch, dau
neu dri o loi, dwsin o ddefaid, tri neu bedwar ceffyl, ychydig foch,
ieir a gwyddau a gedwid ar fferm gyffredin. Ganrif yn gynharach roedd yn
gyffredin rhoi anifeiliaid ar ‘fenthyg’ a darparwr y tir yn cael cadw
llo, ŵyn neu gnu o wlân fel taliad. Tyfid eithin fel porthiant i
geffylau yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. ‘Doedd gan bobl
fawr ddim dodrefn yn y ddeunawfed ganrif; gwelâu a’u cynfasau oedd yr
eiddo mwyaf gwerthfawr. Roedd cistiau yn gyffredin iawn, ac efallai y
ceid cwpwrdd ynghyd â chadeiriau neu feinciau a bwrdd. ‘Doedd yna fawr
offer amaethyddol ychwaith, aradr, ogau, rowl o foncyff coeden ag
ychydig offer llaw.
Pensaernïaeth/Tai
O fewn y
plwyf ceir tua dwsin neu fwy o adeiladau yn dai, addoldai ac adeiladau
amaethyddol sydd wedi’u cofrestru fel o ddiddordeb pensaernïol neu
hanesyddol. Ni ellir newid gwedd nac addasu’r adeiladau hyn heb ganiatâd
yr awdurdodau perthnasol a gallai peidio dilyn y canllawiau hyn neu
beidio cynnal yr adeiladau mewn cyflwr da arwain at erlyniad.
Mae
arddulliau pensaernïol y plwyf yn amrywiol, ond yn nodweddiadol o’r
ardal. Ceir tai sy’n dyddio o’r unfed neu’r ail ganrif ar bymtheg, tai
neuadd yw rhai ohonynt gyda sgrîn post a phanel derw a’r hyn a elwir yn
‘cross passage’. Cychwynnodd rhai fel tai heb simdde gyda thân ar ganol
y llawr a’r mwg yn mynd allan trwy dwll yn y to. Y cam nesaf oedd
adeiladu simdde yn y talcen, ac yn ddiweddarach codwyd simnai ganolog
gyda lloriau yn cael eu hychwanegu pan oedd y tai yn cael eu
‘moderneiddio’ gan greu llofftydd uwch ben yr hen neuadd. Roedd y
grisiau, o garreg yn aml, yn ochr y simdde. Ceir un enghraifft simnai
ochr yn y plwyf.
Gwelir
enghreifftiau o gynllunio unedol yn rhai o dai hynafol yr uchelwyr tra
bo gan un o’r tai hyn ‘crow gables’. Mae gan y tai cynnar hyn fynedfeydd
seiclopeaidd neu o siâp addurnedig gyda drysau bwa Tuduraidd neu ran o
gylch. Ceir tystiolaeth hefyd o rai tai â ffenestri carreg. Tŷ pwysicaf
y plwyf o ran statws a phensaernïaeth yw Berain, er wedi’i newid,
enghraifft o gynllunio unedol gyda drws seiclopeaidd, sgrîn post a
phanel, pennau drysau wedi’u cerfio a chyplau pen gordd yn yr hen
neuadd. Ceir hefyd y simneiau tal oedd yn ffasiynol yn Siroedd Dinbych
a’r Fflint yn y cyfnod Tuduraidd.
Ceir hefyd
un neu ddau o enghreifftiau o dai gyda nen ffyrch sydd wedi goroesi o’r
cyfnod pan oedd y Cymry yn hoff o’r bwa pigfain gothig. Ceir un neu ddau
o enghreifftiau o dai gyda chwpl ‘archbrace’ fel a geir yn yr eglwys,
arwydd o statws unwaith yn rhagor. Mae esiamplau o dai sydd â waliau
allanol o garreg gyda’r waliau mewnol o bren gyda phaneli o gyll a mwd
rhyngddynt.
Yn
naturiol, nid oes olion o dai pren neu fwd pobl gyffredin y canoloesoedd
wedi goroesi, ond hyn yn oed yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ceid
enghraifft o ŵr oedd wedi cloddio i mewn i lechwedd i greu cartref.
Ceir olion
nifer o chwareli yn y plwyf, a bu unwaith sawl odyn yn cynhyrchu calch
at amaethu ac adeiladu. Roedd parwydydd y tai, yn fewnol ac allanol,
wedi’u gwyngalchu gyda lloriau o bridd wedi’u curo neu o lechen
Nantglyn. Roedd y to o wellt, a goroesodd rhai enghreifftiau o’r toi hyn
hyd at y 1970au a’r 1980, er bod to sinc ar eu pen. Daeth llechi o
Benmachno a Ffestiniog yn fwy cyffredin yn ystod y bedwaredd ganrif ar
bymtheg.
Mae’r
mwyafrif o dai'r plwyf yn dyddio o’r ddeunawfed neu’r bedwaredd ganrif
ar bymtheg, canlyniad poblogaeth oedd yn tyfu. Chwalwyd rhai o’r tai hyn
bellach gan godi tŷ newydd ar y safle. Tai ‘cegin a siambr’ oedd llawer
o’r aelwydydd hyn a godwyd gan y llafurwyr gyda beudy ynghlwm wrth y
talcen, ac yn nodweddiadol o’r tŷ hir Cymreig. Roedd y gweddill yn dai
pedair ystafell gyda chegin a pharlwr a dwy loft uwch ben a grisiau yn y
canol. Yn anffodus, fel mewn mannau eraill, fe gollwyd cymeriad brodorol
a lleol y tai hyn wrth eu moderneiddio fel eu bod heddiw mor unffurf ag
unrhyw dŷ arall ym Mhrydain. Dechreuodd y broses hon o’r 1960au ymlaen.
Mae newidiadau mewn amaethyddiaeth hefyd yn golygu bod adeiladau fferm
traddodiadol hefyd mewn perygl oherwydd nad ydynt bellach yn ymarferol
at ddulliau amaethyddol modern.
Codwyd tua
phedwar o dai cyngor cyn yr Ail Ryfel Byd, gyda’r gweddill yn cael eu
codi rhwng y 1950au a chanol y 1970au, cyfnod o brinder tai yn
genedlaethol a hefyd mewn cyfnod pan geiswyd gwella’r stoc dai.
Yn y 1960au
y manteisiodd y plwyf yn llawn ar gyflenwad dŵr a thua’r cyfnod hwn y
cyrhaeddodd trydan hefyd. Hyd yn oed heddiw mae gan rai eu cyflenwad dŵr
preifat eu hunain.
Poblogaeth
Cafwyd llai
o blâu o’r ail ganrif ar bymtheg ymlaen ac roedd pobl yn goroesi yn
well, felly yn ystod y ddeunawfed ganrif cafwyd cynnydd sylweddol mewn
poblogaeth. Amcangyfrifir bod 120-140 o deuluoedd yn y plwyf yn 1749.
Erbyn cyfrifiad 1801 roedd y boblogaeth wedi tyfu i 957, gan gyrraedd
uchafbwynt o 1,196 yn y cyfnod 1841-61 gan ostwng i 771 erbyn 1901.
Roedd tua 70 o dai yn furddunnod erbyn 1900. Gorfodwyd pobl i symud i
Lerpwl, Llynlleifiad, yr arfordir, y glofeydd a’r chwareli llechi i
chwilio am waith oherwydd y newid mewn amaethyddiaeth.
Roedd plant
yn goroesi yn well ar ôl y blynyddoedd cynnar gyda rhai pobl yn cyrraedd
oedran da. Byddai pobl yn canfod eu cymar priodasol o fewn y plwyf neu
yn y plwyfi cyfagos, neu wrth weithio fel gweision a llafurwyr mewn
mannau eraill.
Trosedd
Bu gan y
plwyf blismon o’r 1860au hyd y 1920au. Cofnodir amrywiol droseddau ar
gyfer yr ardal, y mwyafrif yn fân droseddau, tra cafwyd ambell un llawer
mwy difrifol. Lladdwyd aer Bryn Cocyn, perthynas i deulu Salsbriaidi
Llewenni, o ganlyniad i un o helyntion teuluol y Salsbriaid yn gynnar yn
yr ail ganrif ar bymtheg.
Dengys yr
achosion ddaeth ger bron y Sesiwn Fawr rhwng 1750 a 1760 fân achosion o
ddwyn ag ymosod. Roedd troseddau dros ganrif yn ddiweddarach yn debyg
gydag achosion o herw hela, meddwi, anghydfod rhwng pobl, ymosod, cam
drin, peidio anfon plant i’r ysgol, anifeiliaid yn crwydro ar y ffordd
fawr, mynd a cheffyl at y stalwyn ar y ffordd fawr a marchogaeth
ceffylau heb awenau ! Roedd pobl erbyn hyn yn fwy parod i fynd i
gyfraith.
Diwydiant a Masnach
Bu
crefftau’r plwyf am genedlaethau yn cyfarfod anghenion y diwydiant
amaethyddol a’r bobl a gysylltwyd â’r diwydiant hwnnw. Y crefftau
traddodiadol oedd llifwyr, seiri, gofaint, seiri maen, seiri gwellt,
nyddwyr, teilwriaid, cryddion a gwniadwragedd gyda rhai yn cloddio am
fwynau mewn plwyfi cyfagos. Agorwyd pwll glo yn y 1830au a’r 1890au yn
ogystal â chloddfa calamine yn y ddeunawfed ganrif. Roedd teulu
Williams, gofaint y plwyf, yn enwog ar ddechrau’r ugeinfed ganrif am
wneud erydr, a’r rheini yn ennill sawl gornest aredig.
Golygodd
poblogaeth yn gostwng a chynhyrchu gyda pheiriannau ar raddfa fasnachol
ostyngiad yn y galw am grefftau traddodiadol a diflannodd y nyddwr, y
teiliwr, y crydd a’r gwniadwragedd. Roedd pobl yn hunan dibynnol cyn
dyfodiad siop i’r pentref yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda’r
nwyddau yn dod o’r dref gyfagos. Byddai llawer o nwyddau Dinbych yn dod
ar drol o Gaer neu Lerpwl neu ar gwch i borthladd Rhuddlan hyd ddyfodiad
y rheilffordd i Ddyffryn Clwyd. Ceid tair tafarn yn y llan Y Queen’s
Head, y Cross Keys a’r Hawk and Buckle, a adnabyddid unwaith fel y
Falcon. Yn 1700 ‘doedd ond chwech o dai yn y pentref ynghyd â’r eglwys.
Roedd
tafarn a agorwyd yn y 1890au ym Mhont Newydd ac roedd gefail yno hefyd.
Ceid tafarn a gefail ym Mhont y Gwyddyl. Byddai’r ddarpariaeth ym Mhont
y Gwyddyl wedi darparu ar gyfer teithwyr ar eu ffordd i Iwerddon hyd
1763. Deuai’r ffordd o Lundain i Gaer, trwy Benarlâg , Caerwys, Dinbych,
(ble newidiwyd y ceffylau) Henllan, ac i Lanefydd ac ymlaen i Dal y
Cafn. Dyma’r ffordd roedd y post a Rhaglaw Iwerddon yn teithio i’r
Iwerddon.
O’r 1870au
ymlaen gobeithid adeiladu rheilffordd rhwng Trefnant a Llanrwst a fyddai
wedi mynd trwy’r plwyf gan elwa’r diwydiant amaethyddol a helpu’r
diwydiant plwm yn Llanfair Talhaearn a’r pwll glo a agorwyd yn y plwyf
yn y 1890au. Y syniad gwreiddiol oedd rheilffordd lydan, ond ofnid colli
cefnogaeth y tirfeddianwyr oherwydd y byddai’n golygu’r angen am fwy o
dir na rheilffordd gul. Fodd bynnag, ni ddigwyddodd hyn oherwydd y gost,
a amcanwyd yn £1,000 y filltir, ac wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf dechreuwyd
anfon bysiau i’r plwyf. Ar y rhain fe gludid ieir, moch, ŵyn a lloi i’r
farchnad !
Roedd gan
bawb ei safle yn y gymdeithas, er nad oedd tirfeddiannwr yn byw yn y
plwyf ar ôl canol y ddeunawfed ganrif. Aeth y mân uchelwyr fel Foulkes,
Tan Gaer a Huwsiaid y Goedwig a Myfoniog yn gynyddol dlawd gan fethu
datblygu eu daliadaeth tir. Nid oedd eraill fel Foulkes Llechryd ond
rhydd-ddeiliaid erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Aeth stadau eraill
fel Williams, Plas Isaf ac Wynn Plas Uchaf yn rhan o stad eraill trwy
briodas - Nercwys a Choed Coch. Roedd canolfannau'r stadau hyn y tu
allan i’r plwyf, yn arbennig yn Henllan.
Roedd
statws cymdeithasol yn dibynnu ar a oedd dyn yn rhydd ddeiliad, iwmon
neu ar ei ddaliadaeth tir. Fel mewn mannau eraill, roedd traddodiad i’r
dyn uchaf ei statws yn y plwyf godi o’i sedd a dilyn y person allan o’r
eglwys ar derfyn y gwasanaeth ar ddydd Sul. Hyd yn oed ymysg gweision
roedd hierarchaeth.
Y
Cronfeydd Dŵr
Codwyd
cronfa ddŵr o’r enw Llyn Plas yn 1868 gydag argae o glai i ddarparu dŵr
i dref Y Rhyl. Roedd y llyn yn 11 erw a’r man dyfnaf yn 46 troedfedd, a
phan roedd lefel y dŵr yn 44 troedfedd roedd 50,000,000 galwyn o ddŵr yn
y gronfa. Yn 1893 fe’i gwerthwyd ynghyd â dau dŷ i Gomisiynwyr Y Rhyl am
£70,000 pan oedd yr incwm blynyddol yn £2,300 y flwyddyn. Byddai
cynghorwyr y dref ar ddechrau’r ugeinfed ganrif yn ymweld â’r gronfa yn
flynyddol i gael cinio.
Yn 1905-06
adeiladwyd Llyn Dolwen gan lafurwyr a oedd yn aros yn yr ardal. Roedd
cwynion ynghylch eu hymddygiad, eu bod yn feddw, yn ddiog a pheidio codi
i fynd i’w gwaith. Ymwelodd gweinidog o Ddinbych â hwy i geisio ennill
eu diddordeb yn y diwygiad oedd ar droed yn yr ardal. Bu cwynion hefyd
ynghylch y tracsion stêm oedd yn dryllio’r ffyrdd wrth lusgo defnyddiau
at godi’r llyn. Bu’r cronfeydd yn boblogaidd gyda physgotwyr ers
blynyddoedd.
Crefydd.
Y
datblygiadau mwyaf arwyddocaol a dylanwadol yn y bedwaredd ganrif ar
bymtheg oedd dyfodiad anghydffurfiaeth ac addysg, ac fe newidiodd hyn
fywyd yng Nghymru yn ddramatig. Fel mewn mannau eraill yng Nghymru,
roedd y Bedyddwyr yn flaenllaw iawn ym mywyd y plwyf.
Roedd rhyw
ddau neu dri o deuluoedd o Lanefydd yn Fethodistiaid yn y 1750au cynnar,
gan fynychu cyfarfodydd yn Ninbych a’r plwyfi cyfagos, er eu bod yn
parhau i fynychu eglwys y plwyf yn ôl yr arfer. Weithiau fe’i gelwid yn
‘jumpers’ oherwydd eu brwdfrydedd. Roeddent yn cadw’r gyfraith, ond er
hyn, roedd pobl yn amheus ohonynt. Roedd y Methodistiaid yn cael eu
herlid trwy gael eu cam-drin, colli eu tenantiaeth, ac roedd ficer y
plwyf, Edward Chambres Jones yn elyniaethus a gorthrymus tuag atynt.
Adeiladwyd
y capel Calfinaidd cyntaf yn y plwyf ar gae Bryn Mitho ger Ffynhonnau,
yn 1795, tua’r pedwerydd capel Methodistaidd i’w godi yn y cylch gan
wasanaethu ardal pur eang. Gwelwyd cynnydd mewn presenoldeb pan
ymddangosodd y geri marwol yn Ninbych yn 1832, gan y tybiai pobl mai
barn Duw oedd achos y salwch.
Dilynwyd
capel Ffynhonnau gan Gapel Cefn Berain yn 1854, Capel Llan yn 1867, ac
yn olaf Gwynfa yn 1911. Cafodd y plwyf ei ddylanwadu yn fawr gan
ddiwygiad 1859-60, a chafwyd diwygiad arall yn 1884, ond nid yw’n
ymddangos bod diwygiad 1905 wedi cael cymaint o ddylanwad.
Roedd y
Bedyddwyr hefyd yn cyfarfod yn y plwyf o’r 1790au ymlaen gyda rhai yn
cyfarfod ym Mryn Canol. Bu ymraniad ymysg rhai o’r aelodau pan fu iddynt
fabwysiadu syniadau’r Bedyddwyr Albanaidd ac fe adawodd y Bedyddwyr
Neilltuol i adeiladu, ymhen amser, Gapel Penuel yn 1815. Ni chododd y
Bedyddwyr Albanaidd Gapel Bryn Deunydd hyd 1823, gan godi capel newydd
ac ehangach yn 1877.
Deuai
aelodau’r Bedyddwyr o ardal llawer ehangach na’r Methodistiaid, ac roedd
yn gyffredin i aelodau Capel Bryn Deunydd ddod â’u cinio efo nhw gan
aros am y diwrnod cyfan, felly cawsant yr enw ‘Bedyddwyr Bara a Llaeth’.
Mae’r Bedyddwyr Albanaidd yn llawer mwy anghyffredin a’u canolfannau yn
y dyddiau a fu i’w cael yn Harlech, Trawsfynydd a Rhosllannerchrugog.
Credai’r Bedyddwyr mewn bedydd trwy daenelliad gan ddefnyddio’r Afon
Elwy ym Mhont y Ddôl neu Bont Newydd, tra arferai’r Bedyddwyr Albanaidd
ddefnyddio Nant y Garnedd gan greu llyn at y perwyl, ond fe ddeuai
llanciau direidus yn y nos a rhyddhau’r dŵr !
Adeiladwyd
capel bychan ar gyfer y Bedyddwyr Neilltuol gan John Kelly ym Mhont
Newydd yn 1826 yn dilyn anghydfod rhwng John Kelly ac Ellis Evans,
gweinidog Capel Penuel. Codwyd y capel yn bennaf ar draul John Kelly ac
ef hefyd oedd y gweinidog. Aeth y capel ar dân ac fe’i caewyd yn 1957.
Roedd
dirywiad pwysigrwydd capeli yng Nghymru wedi dechrau yn niwedd y
bedwaredd ganrif ar bymtheg ond cyflymwyd y broses gan ddau Ryfel Byd ac
yn ystod hanner olaf yr ugeinfed ganrif pan gafwyd atyniadau eraill,
symudodd pobl i ffwrdd i fyw i chwilio am waith ac hefyd roedd galwadau
eraill ym mywyd dyddiol pobl. Erbyn hyn ‘does ond Capeli Llan, Cefn
Berain a Bryn Deunydd yn agored.
Addysg
Llwyddodd
nifer fechan o fân uchelwyr i anfon eu meibion i brifysgolion Rhydychen
a Chaergrawnt ac Ysbytai’r Gyfraith yn Llundain. Fodd bynnag, yn 1746-47
cafodd llawer o bobl y plwyf gyfle i ddysgu elfennau darllen am y tro
cyntaf yn ysgolion cylchynol Griffith Jones, Llanddowror. Eu gwerslyfr
oedd y Beibl am mai hwnnw oedd y llyfr mwyaf cyffredin oedd ar gael, er
ymhell o fod yn ddelfrydol. Amrywiodd y nifer a fynychodd yr ‘ysgolion’
a gynhelid mewn ysgubor neu gegin yn y gwahanol leoliadau o 34 i 51.
Cafwyd rhyw
fath o ysgol yn y plwyf rhwng 1749 a 1753 a chynhelid ysgol ym Mhen Bryn
Bach, yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn addysgu darllen.
Roedd Ellis Evans, gweinidog y Bedyddwyr yn cynnal ysgol yng Nghapel
Penuel yn c1817. Roedd yn gyffredin i weinidogion gyfuno’r weinidogaeth
â galwedigaeth arall yn y cyfnod hwn. Nid oes cyfeiriad at ysgol ym Mrad
y Llyfrau Gleision yn 1847, ond fe gynhelid ysgol yn festri’r eglwys hyd
1866. Roedd darpariaeth yr ysgolion hyn yn hollol anfoddhaol.
Roedd
anghydffurfwyr y plwyf yn gwbl anfodlon â’r sefyllfa ac aethant ati i
sefydlu ysgol anenwadol yn 1852 o dan y Gymdeithas Frutanaidd a Thramor
(Yr Ysgoldy Isaf) yr hon a agorwyd yn Sea View, preswylfan a
ddymchwelwyd yn y 1970au, ac wedi’i lleoli rhwng Plas yn Llan a Bryn
Hyfryd.
Pryderai
periglor y plwyf, Ebenezer Jones yn ddirfawr ynghylch dylanwad yr
anghydffurfwyr ac felly yn 1866 fe agorodd ysgol Y Gymdeithas
Genedlaethol (Yr Ysgoldy Uchaf). Cafodd hyn ddylanwad difäol ar yr Ysgol
Frutanaidd, a bu’n rhaid iddi gau yn 1874. Bu i hyn a rhyfel y degwm
ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach wneud yr eglwys yn hynod
amhoblogaidd yn y plwyf.
Cynlluniwyd
yr Ysgoldy Uchaf gan y penseiri Lloyd Williams ag Underwood, Dinbych a’r
gost yn £854. Y prif gyfrannwr oedd chwaer cyn ficer y plwyf, ond fe
wnaeth rhai o’r bonedd lleol fân gyfraniadau gyda’r ficer yn gorfod
talu’r gweddill sef £350 o’i boced ei hun neu ni fyddai’r ysgol wedi’i
hadeiladu. Roedd plant yn talu 2c. yr wythnos am eu haddysg yn yr Ysgol
Genedlaethol.
Fel llawer
o ysgolion gwledig, nid oedd yr athrawon yn aros yn hir gan symud i
ysgolion oedd yn cynnig gwell cyflog yn rhywle arall. Nid oedd yn
anghyffredin i’r ficer orfod addysgu’r plant ei hun yn ogystal â thalu
o’i boced ei hun i sicrhau nad oedd yr ysgol yn mynd i ddyled. Byddai’r
ysgol yn cael ei tharfu yn rheolaidd gan salwch neu ddigwyddiad yn cael
ei gynnal yn rhywle.
Roedd rhai
o blant y plwyf yn mynd i ysgol Henllan, ond am gyfnod rhwng y ddau
ryfel byd fe gynhaliwyd cangen o ysgol Henllan yng Nghapel Gwynfa.
Cwynodd
rhieni ynghylch cyflwr a diffyg cyfleusterau’r ysgol yn Llanefydd yn y
1930au a bygythiwyd streic ar un cyfnod. Dygwyd pwysau am ysgol newydd
ond bu’n rhaid disgwyl hyd 1954 pan agorwyd ysgol newydd.
Bywyd
Cymdeithasol.
Yn
gyffredin â phlwyfi eraill, fe chwaraeid gemau traddodiadol ar y Suliau
a gwyliau, y rhai hynny yn cael eu cynnal ar gomin Bryn Deunydd yr hwn a
leolwyd ger y capel o’r un enw. Digwyddai ymladd ceiliogod yn y plwyf
hefyd ac ar un cyfnod ceid maer ffug, dawnsid y fedwen haf, ac roedd
telynor yn y plwyf ddau gan mlynedd yn ôl.
Roedd
arferion eraill fel hel ynyd a chasglu wyau at wneud crempog ar ddydd
Mawrth Crempog, hel gwlân oddi ar wrychoedd i nyddu at wneud hosanau yn
ogystal â lloffa. Roedd saethu at dargedau a llawer o arferion eraill.
Daeth yr arferion traddodiadol hyn i ben gyda dyfodiad anghydffurfiaeth
a’r pwyslais ar fod yn sobr a pharchus.
Datblygodd
y delyn i fod yn offeryn i’w ddirmygu a gysylltid â’r dafarn, er hyn,
roedd amharodrwydd i fabwysiadu’r organ at ganu cynulleidfaol, parhaodd
yr arfer o ‘daro’r nodyn’.
Llewyrchodd
bywyd diwylliannol newydd yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg
pan ddaeth cerddoriaeth a chorau yn gynyddol boblogaidd. Roedd dyfodiad
Sol-ffa yn gaffaeliad mawr o gymharu â hen nodiant.
Cynhaliwyd
yr eisteddfod gyntaf yn 1859 gan ddenu tyrfaoedd mawr. Roedd gan y plwyf
ei ganwyr penillion sef Dafydd Roberts, Bryn Glas ac Isaac Jones, Nant
yn nechrau’r ugeinfed ganrif. Cynhaliwyd cyfres o ‘eisteddfodau mawr’
mewn pabell yn y cyfnod 1908-12 gyda chadeiriau a choronau yn cael eu
cynnig. Sefydlwyd eisteddfod gan Gapeli Llanefydd a Chefn Berain yn 1931
ac mae’n parhau hyd heddiw.
Darlithiodd
amryw o bobl amlwg y dydd yn y plwyf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg
pobl fel Gwilym Hiraethog, Thomas Gee ac Owen Thomas yn traethu ar
bynciau diwylliannol. Cafwyd sawl cymdeithas fel cymdeithas y
Rhyddfrydwyr, y Gymdeithas Gyfeillgar, a chymdeithasau dirwestol,
llenyddol a chlwb aredig, plygu gwrych ac agor ffosydd. Ar y cyd â
Henllan fe sefydlwyd Cymdeithas Nyrsio rhwng tua 1930 a 1947 yn ogystal
â Chymdeithas Gyfeillgar y Merched. Y mae'r oll o’r rhain fel y sioe gŵn
wedi dod i ben, ac yn anffodus mae eu cofnodion wedi’u colli fel na
wyddom ddim o’u hanes.
Cynyddodd y
diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar
bymtheg wrth i’r etholfraint gael ei ehangu ac fe gynyddodd y dylanwad
hwn wrth i bobl ddod yn gynyddol lythrennog.
Dylanwadwyd
ar y plwyf gan effeithiau’r Rhyfel Byd Cyntaf pan wasanaethodd 46 o
ddynion yn y lluoedd arfog a chafodd chwech eu lladd. Bu prinder bwyd a
dogni, prinder blawd i wneud bara yn 1917, blwyddyn y bara mall fel y’i
gelwid pan oedd y blawd yn ddu ac wedi’i gymysgu a llwch llif. Aeth wyau
hefyd yn ddrud. Roedd prinder dynion i weithio’r tir oherwydd gorfodaeth
filwrol. Yna, ar derfyn y rhyfel, dioddefodd y plwyf o’r ffliw mawr a
ledaenodd trwy’r byd.
Mae
newidiadau cymdeithasol yn parhau i ddigwydd heddiw gyda diffyg tai
fforddiadwy ar gyfer yr ifanc. Mae pwysau hefyd ar yr iaith Gymraeg a’r
dull Cymreig o fyw, a’r newidiadau mewn amaethyddiaeth.
Mae’r
capeli yn parhau i chwarae rhan ganolog ym mywyd y plwyf. Nid oedd
neuadd blwyfol hyd y codwyd y cwt Nissan brynwyd am £350 yn 1950, a
chymerwyd ei le gan neuadd hardd yn 1966 sydd wedi bod yn gaffaeliad
mawr i’r plwyf.
Rhyfel y Degwm
Daeth y
plwyf i gryn amlygrwydd yn ystod y gwrthryfel yn erbyn y degwm yn
1887-90 pan ddaliodd y plwyfolion eu tir yn erbyn talu’r degwm. Ni
welwyd y fath ffyrnigrwydd yn unlle arall yng Nghymru.
Y degwm
oedd treth o 1/10 o gynnyrch y tir i fynd tuag at gynnal offeiriad y
plwyf yn seiliedig ar gyfartaledd prisiau ŷd. Pwysodd amaethwyr Dyffryn
Clwyd am ostyngiad yn y degwm oherwydd y dirwasgiad amaethyddol oherwydd
mewnforion tramor a’r tywydd drwg a gafwyd. Roeddent hefyd yn dadlau eu
bod yn gorfod cynnal eglwys nad oeddent yn ei mynychu pan roedd ganddynt
eu gweinidogion a’u capeli eu hunain i’w cynnal. Hefyd, roedd materion
cymhleth eraill fel y berthynas rhwng y tirfeddiannwr a’r tenant. Roedd
y tirfeddiannwr yn dioddef fel ei denant. Roedd rhai o’r anawsterau yn
ymwneud â difrod i gnydau gan ffesantod a chwningod ar un llaw a’r
saethwyr ar y llaw arall.
Roedd
diffyg iawndal i denant wrth adael ei denantiaeth a hynny ar ôl gwneud
gwelliannau i’r fferm hefyd yn asgwrn cynnen. Anhawster arall oedd y
berthynas rhwng goruchwyliwr y stad a’r tenant. Roedd gwahaniaeth
diwylliannol rhwng y tirfeddiannwr a’r tenant mewn crefydd,
gwleidyddiaeth ac iaith.
Manteisiodd
Thomas Gee, y cyhoeddwr dylanwadol o Ddinbych ar y sefyllfa i greu
protest wleidyddol mewn ymdrech i wahanu’r Eglwys Sefydledig yng Nghymru
oddi wrth y wladwriaeth.
O 1886
ymlaen dechreuodd amaethwyr wneud safiad yn erbyn talu degwm. Roedd rhai
offeiriaid plwyf fel Ellis Wyn o Wyrfai yn Llangwm yn llawn cydymdeimlad
tra roedd T B Ll Brown, Bodfari yn gwbl wrthwynebus. Roedd rhai o’r
tirfeddianwyr lleol oedd â thir yn Llannefydd fel W.D.W. Griffith, Garn
ag Anna Maria Mainwaring, Galltfaenen, yn barod i roi gostyngiad yn
rhenti eu tenantiaid yn ogystal â thalu eu degwm. Rhoddodd y ficer,
Ebenezer Jones, ostyngiad yn ei ddegwm, ond fe wrthododd y Comisiynwyr
Eglwysig roi dim gostyngiad yn eu cyfran hwy o’r degwm ac fe ychwanegodd
hyn at anawsterau’r sefyllfa. Perodd y bygythiad o wrthdaro sioc fawr a
chynnwrf ymysg y tirfeddianwyr a bu cyfarfod cyfrinachol yn nhŷ’r
Arglwydd Harlech yn Llundain i drafod y mater.
Parhaodd yr
amaethwyr i beidio talu eu degwm, a’r diwedd fu i feilïaid ddod i
atalfaelu eiddo’r amaethwyr. Tenantiaid mân stadau ac unigolion
cyffredin oedd y rhain fel arfer gan nad oedd ganddynt y modd ariannol i
gynorthwyo’r amaethwyr.
Anfonodd yr
amaethwyr eu hanifeiliaid i diroedd comin neu eu cloi mewn adeiladau pan
ddisgwylid y beili. Clowyd giatiau lonydd, eu plethu â drain a rhoi tar
ar ben y giât a’r drain er llesteirio gwaith y beili.
Ar
ymddangosiad y beili byddai gynau yn cael eu tanio, cyrn a chrageni yn
cael eu chwythu, ceulorau a bwcedi yn cael eu curo er mwyn denu tyrfa a
rhybuddio bod y beili ar ei ffordd a bod angen pobl i ymgynnull i greu
rhwystrau a llesteirio gwaith y beili. Talodd rhai eu degwm mewn arian
mân oedd wedi bod yn poethi mewn padell ar y tân gan orfodi’r beili
losgi ei fysedd ! Roedd llawer digwyddiad digrif arall. Cyrhaeddodd
pethau ben llanw ym Mai 1888 pan wynebodd yr heddlu a’r beili ymdeimlad
o benderfyniad ymysg y plwyfolion. Mae’n aneglur beth a ddigwyddodd yn y
Bryn Gwyn, ond mae’n ymddangos bod un o’r plwyfolion wedi gwthio neu
daro’r beili un ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol. Cydiodd y beili yn y
llanc, a geisiodd ei wrthwynebu, ac fe symudodd y dorf o ryw 150-200
ymlaen gan bryderu bod y beili am ymosod arno. Ar y llaw arall, tybiai’r
heddlu bod y bobl am ymosod ar y beili, a dyma’r heddlu yn tynnu eu
pastynau allan ac ymosod ar y dorf. Niweidiwyd 25 o bobl, rhai yn
ddifrifol, a chymerodd dair awr i feddyg drin y clwyfau.
Yn
ddiweddarach y diwrnod hwnnw, dechreuodd y dorf arfogi eu hunain â
thyweirch a gasglwyd oddi ar gae wedi’i aredig gyda’r bwriad o’u taflu
at a dial ar yr heddlu. Apeliodd y prif gwnstabl am drefn gan fygwth y
byddai’n darllen y Ddeddf Derfysg oni fyddai ymddygiad y dorf yn fwy
rhesymol.
Llesteiriwyd taith yr heddlu a’r beili yn ôl i Ddinbych gan goed, cerrig
a thuniau oedd wedi’u taflu i’r ffordd. Codwyd y gwrthdrawiad gyda’r
Ysgrifennydd Cartref yn Nhŷ’r Cyffredin. Canlyniad yr helynt oedd
cyrhaeddiad milwyr i gynorthwyo gyda chadw trefn.
Roedd 1889
yn flwyddyn ddistaw, codiad ym mhrisiau’r farchnad o bosibl oedd yn
gyfrifol am hyn. Fodd bynnag, fe gafwyd mân ddigwyddiadau yn 1890.
Tawelodd materion er na chyflawnwyd dadsefydlu’r eglwys na diddymu’r
degwm am nifer o flynyddoedd, er y cafwyd Comisiwn Brenhinol ar Dir yng
Nghymru. Cyflwynodd rhai o’r plwyfolion dystiolaeth ger bron y comisiwn
yn Ninbych. Mae’r cyfrolau hyn yn eithriadol gyfoethog yn eu gwybodaeth.
Ail
ymddangosodd gwrthwynebiad i dalu’r degwm yn y 1930au, er nad ar yr un
raddfa, a chafodd nifer eu herlyn am beidio talu’r degwm.
© Seiliedig
ar y gyfrol Etifeddiaeth Bro gan Gwyn Jones ac ymchwil pellach
Enwogion
Dros y
canrifoedd fe gynhyrchodd y plwyf amryw enwogion yn feirdd, llenorion,
clerigwyr a gweinidogion. Ymddangosodd hanes rhai mewn llyfrau tra nad
oedd eraill ond yn amlwg yn lleol, pobl fel Robert Jones (Robat Jones,
Llanufudd), pregethwr syml a phoblogaidd a’i fab, John Jones, Blaen
Llechau (1836/7-91) awdur a gweinidog amlwg iawn yn ei ddydd gyda’r
Bedyddwyr. Ceid hefyd y cawr Isaac Ellis (Caerenydd), bardd, llenor,
cymeriad, arweinydd eisteddfodau, darlithydd, gŵr ffraeth, hynod
ddiwylliedig a wnaeth lawer i hyrwyddo diwylliant yn y plwyf. Roedd
eraill yn fân feirdd, ond unwaith yn rhagor, mae eu gweithiau wedi’u
colli trwy amryfusedd. Beirdd fel Edward Williams (Nefydd Ddu), John
Daniel (Nefydd Aled) gyda’i gerddi ‘Carwriaeth yr Aled a’r Elwy’, a
‘Priodas Dan Fron Fawr’ yn hynod boblogaidd yn y cylch. Ceid hefyd gerdd
boblogaidd gan William Williams, Glan Gors, honno hefyd wedi’i cholli.
Iolo Goch
c1320-c1398
Cysylltir
Iolo â’r plwyf ac mae’n un o feirdd mawr y canol oesoedd a chyfnod
Beirdd yr Uchelwyr. Mae ei gerdd i’r llafurwr yn hynod gofiadwy. Roedd
yn fab Ithel Goch ap Cynwrig ab Iorwerth Ddu ap Cynwrig Ddewis Herod ap
Cywryd, a oedd a thiroedd yn y plwyf. Ysgrifennodd gerddi i esgobion
Llanelwy ac offeiriaid yr esgobaeth yn ogystal ag i’r uchelwyr ac Owain
Glyndŵr. Symudai yn clera rhwng tai’r uchelwyr yn adrodd cerddi. Mae 29
o’i gywyddau wedi goroesi.
Catrin o
Ferain c1540-1591
Roedd hi’n
ferch Tudur ap Robert Fychan o Ferain a Jane Velville. Tad Jane oedd Sir
Rowland Velville Cwnstabl Castell Biwmares a mab anghyfreithlon Henry
VII a gafodd diroedd y Tuduriaid ym Môn.
Trefnwyd
priodas blant rhwng Catrin a John Salusbury, Llewenni yn 1556/7 ac o’r
briodas hon bu dau fab, Thomas, (1564-1586) a ddienyddiwyd am ei ran yng
Nghynllwyn Babington, a Syr John, (1566-1612), a etifeddodd y stad.
Yna
priododd Catrin â Richard Clough o Ddinbych, marsiandwr a oedd yn
gweithio i Sir Thomas Gresham yn Antwerp. Teithiodd a bu’n byw dramor
gydag ef yn Antwerp a Hamburg cyn iddo farw yn 1570. Cawsant ddwy ferch
Anne a Mary.
Cyn 1573 fe
briododd Catrin am y drydedd waith â Maurice Wynn, Gwydir, Llanrwst a
threfnwyd priodas blant rhwng Thomas, mab hynaf Catrin a merch Maurice.
Arweiniodd y briodas hon at wrthdaro rhwng y Wyniaid a’r Salsbriaid. Bu
farw Maurice yn 1580 gan adael dau blentyn o’r briodas hon, Edward a
Jane.
Roedd
priodas olaf Catrin ag Edward Thelwell, gŵr dysgedig a diwylliedig, a
symudodd Catrin ar ôl marwolaeth ei thad yng nghyfraith i Blas y Ward,
Ruthun ble farw yn Awst 1591 a’i chladdu yn Llannefydd.
Huw Llifon
fl c1552-1607
Nid oes dim
yn wybyddus am ei fywyd, ond mae rhai o’i gerddi wedi goroesi ac ar gadw
yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a Llyfrgell Rydd Caerdydd.
Mae un gerdd i’r goeden sanctaidd ym Meifod (San Siôr, Abergele mae’n
debyg), tra bo cerdd arall i Ffynnon Ufudd.
William
Williams c1625-84
Ganwyd yn
ail fab Edward Williams, Carwed Fynydd. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol
Westminster a graddiodd yn B.A. o Goleg y Drindod Caergrawnt yn 1647 a
M.A. yn 1657. Cafodd fywoliaeth Llandegfan, a Biwmares yn 1660 ac yn
ddiweddarach Llansadwrn, yr oll ym Môn. Derbyniodd fywoliaeth Llangurig,
Sir Drefaldwyn. Bu’n ficer Llaneurgain, 1672-77, a Rhuddlan, Sir y
Fflint 1678-84 gan ddal hefyd segurswydd Llansannan 1663-78 a Bodfari
1672-81. Fe’i cofir fel hynafiaethydd dibynadwy.
Humphrey
Foulkes 1673-1747
Offeiriad a
hynafiaethydd a raddiodd o Goleg yr Iesu, Rhydychen a gafodd
Ddoethuriaeth mewn Diwinyddiaeth yn 1720. Daliodd sawl bywoliaeth yn
Esgobaeth Llanelwy. Ysgrifennodd draethodau ar fywyd Cymreig yn y canol
oesoedd, gohebai â’r ysgolhaig Edward Lhwyd, Ceidwad Amgueddfa
Ashmolean, Rhydychen.
Peter
Foulkes 1676-1747
Offeiriad,
ysgolhaig, bardd, awdur a gŵr graddedig o Goleg Eglwys Crist, Rhydychen.
Fe’i ganwyd yn fab Robert Foulkes, Llechryd. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol
Westminster a daliodd sawl swydd yn Esgobaeth Exeter. Cyhoeddodd rai
llyfrau.
Thomas
Edwards (Twm o’r Nant) 1739-1810
Fe’i ganwyd
ym Mhen Porchell Isaf (mae tŷ newydd bellach ar y safle). Symudodd ei
deulu i’r Nant yn hen blwyf Henllan. Dysgodd ddarllen yn ysgol gylchynol
Griffith Jones, Llanddowror a chafodd bythefnos o addysg yn Ninbych.
Ysgrifennodd anterliwt yn naw oed, ac erbyn 12 oed roedd yn perfformio
mewn anterliwtiau. Tra’n byw yn Ninbych roedd yn cario coed ond aeth i
ddyled gan fynd ati i ysgrifennu a pherfformio anterliwtiau.
Dihangodd i
dde Cymru pan fethdalodd ei ewythr a Twm wedi addo bod yn feichiau iddo.
Bu’n cario coed yn ne Cymru, cadw tollborth a thafarn cyn dychwelyd i
Ddinbych yn 1786 ble treuliodd weddill ei oes yn gweithio fel saer maen.
Treuliodd gyfnod yn gweithio ar y cob ym Mhorthmadog.
Mae wyth
o’i anterliwtiau wedi goroesi ble mae’n beirniadu arferion cymdeithasol
y dydd. Roedd hefyd yn gryn gymeriad. Ymddangosodd cyfrol o’i
farddoniaeth ‘Gardd o Gerddi’ yn 1790 ac roedd yn adnabyddus mewn
eisteddfodau.
John
Roberts 1775-1829
Fe’i ganwyd
yn fab John Roberts, Plas Harri, ac fe’i haddysgwyd gan gurad Betws yn
Rhos cyn mynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen ble graddiodd yn 1796. Fe’i
penodwyd yn gurad Chiselhampton a Stadhampton ger Rhydychen ble roedd yn
offeiriad cydwybodol a phoblogaidd iawn. Cywirodd destun Cymraeg o’r
Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin i’r S.P.C.K. Dychwelodd i Ddyffryn
Clwyd yn 1807 fel curad Tremeirchion, gan ddod yn offeiriad y plwyf.
Gwrthwynebodd orgraff amheus William Owen Pugh a dywedir mai ef a
gychwynnodd draddodiad yr ŵyl ddiolchgarwch yng Nghymru. Gwelai
rinweddau yn rhai o syniadau’r Methodistiaid, cefnogai’r Ysgol Sul a
Chymdeithas y Beiblau. Cyhoeddodd lyfr emynau, llyfr o homilïau a
chylchgrawn byr ei oes. Fe’i claddwyd yn Llannefydd.
Ellis Evans
1786-1864
Ganwyd yn
Llanuwchllyn, daeth yn bregethwr cyn mynd ymlaen i gael ei addysgu yn y
Fenni gan fynd yn bregethwr ac ysgol feistr crwydrol. Yn 1815 daeth yn
weinidog Llannefydd, Llansannan a Llangernyw gan gadw ysgol yng Nghapel
Penuel, Llannefydd, ble roedd yn aml mewn myfyrdod dwys yn ystod y
gwersi. Enillodd edmygaeth yr ardal pan aeth i ymweld â chleifion pan
ddaeth rhyw salwch pur arw i’r cylch, o’r hwn y bu nifer farw. Nid oedd
yn bregethwr poblogaidd, ond roedd yn fwy adnabyddus fel diwinydd a
gyhoeddodd lyfrau. Ymhen amser daeth yn weinidog Cefn Mawr, Wrecsam.
Abel
Vaughan 1784-1827
Ganwyd ym
Mhlas Bwcle a dechreuodd bregethu gyda’r Bedyddwyr yn 1806 gan gael ei
ordeinio yn weinidog Glyn Ceiriog a Rhuthun yn 1808 cyn symud i Lerpwl
yn 1815. Daeth i fyw i blwyf Henllan a gweinidogaethu yn Ninbych. Oddi
yno symudodd i Gefn Bychan a Phen Cae, Wrecsam ble bu farw.
Richard
Foulkes 1784-1823
Ganwyd ym
Mhen Bryn Mawr, yn aelod o deulu Ffowcsiaid Llechryd. Crydd ydoedd wrth
ei alwedigaeth ac aelod gyda’r Annibynnwr, ond ymunodd â’r Bedyddwyr gan
gael ei ordeinio yn weinidog Dinbych yn 1810. Oddi yno symudodd i Gefn
Bychan a Phen Cae, Wrecsam yn 1820 ble bu farw. Ysgrifennai i Seren
Gomer dan yr enw Seilas Glyndyfrdwy.
John
Williams, Pen y Geufron
Cyhoeddodd
gyfrol o farddoniaeth yn 1836. Ni wyddys dim arall amdano.
Thomas
Robert Jones (Gwerfilyn) 1802-56
Crydd a
anwyd yn Maes Gweirfyl. Dilynodd y grefft hon yn Rhiwabon, Cefn Mawr a
Llansanffraid Glyndyfrdwy. Roedd yn sylfaenydd mudiad dyngarol Y Gwir
Iforiaid. Sefydlodd gymdeithasau Cymraeg yn y lleoedd uchod ac roedd yn
gyfranwr rheolaidd i gylchgronau’r Bedyddwyr. Sefydlodd gymdeithas arall
yn Wrecsam i gynnig cymorth ariannol i’w aelodau a hyrwyddo’r iaith
Gymraeg. Tyfodd yr aelodaeth a sefydlwyd canghennau eraill yng Nghymru,
ond aeth hi’n anghydfod rhwng T R Jones a’i ddilynwyr a gweddil yr
aelodau ac fe sefydlodd gymdeithas arall. Bu farw ym Mhenbedw.
William
Roberts (Nefydd) 1813-72
Ganwyd yn
fab Robert Roberts, Bryn Golau, (sy’n furddun). Dilynodd grefft y crydd
fel ei dad, oedd yn ŵr neilltuol ddysgedig yn ôl safonau’r oes honno.
Dechreuodd bregethu yn 1834 gan fynd i Lansilin am addysg cyn mynd yn
weinidog gyda’r Bedyddwyr yn Stanhope Street, Lerpwl yn 1837. Yn 1845
aeth yn weinidog Salem, Blaenau Gwent, Sir Fynwy ble bu farw.
Ysgrifennodd y llyfr Cymraeg cyntaf ar lên gwerin gan sefydlu ei wasg ei
hun. Roedd yn adnabyddus ar lwyfan yr eisteddfod, yn weithgar iawn
gyda’r Gymdeithas Frutanaidd a Thramor yn ne Cymru. Roedd yn llenor a
chanddo lyfrgell o 6,000 o lyfrau.
Peter
Williams (Pedr Hir) 1847-1922
Ganwyd yn
Llanynys. Bu’n ymwneud â sawl galwedigaeth cyn mynd yn heddwas gan
dreulio cyfnod yn blismon yn Llannefydd yn yr 1870au cynnar. Yma y
dechreuodd bregethu gan dreulio llawer o’i amser yn darllen. Roedd yn
gydnabyddus â Thalhaearn, Nefydd ac Emrys ap Iwan. Trodd i’r
weinidogaeth gan wasanaethu yn Abergele, Tredegar a Lerpwl a châi ei
ystyried yn bregethwr mawr yn ei ddydd gan ddefnyddio iaith gyfoethog
Dyffryn Clwyd. Roedd yn fardd, emynydd, dramodydd ac eisteddfodwr yn
ogystal â chymeriad hynod.
John
Gwyddno Williams
Ganwyd yn
Eglwysbach yn 1861 ond symudodd y teulu i Langernyw yn 1868. Dechreuodd
bregethu yn 1880 ac ordeiniwyd yn weinidog gyda’r Bedyddwyr yn Ffynnon
Groyw 1891-96, Brynsiencyn, Môn 1896-1900 a Llanfair Caereinion 1900-13.
Wedi ymddeol aeth i fyw i Gaerwys cyn symud i Llys Nefydd, Llannefydd yn
1928. Roedd yn awdur sawl ysgrif ac erthygl.
Gruffydd
John Roberts (1912-69)
Brodor o
Afon Wen, Sir Gaernarfon. Graddiodd o Goleg Prifysgol Cymru, Bangor.
Treuliodd gyfnod fel darlithydd cyn cymryd urddau eglwysig gan ddod yn
gurad Y Rhyl ac yn ddiweddarach yn offeiriad yng ngofal Llannefydd
1941-45. Bu’n rheithor Nantglyn 1945-48, rheithor Mellteyrn, Botwnnog a
Bryncroes, 1948-51, ficer Blaenau Ffestiniog 1951-56 a ficer Conwy a
Gyffin 1956.
Enillodd y
goron yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn yn 1947 am gerdd i Abaty
Glyn y Groes a daeth yn agos at ennill y gadair yn Eisteddfod
Genedlaethol Llanelli yn 1962. Roedd yn ddarlledwr radio poblogaidd ac
ysgrifennodd ddramâu a chyhoeddodd amryw lyfrau.